Cynhadledd anabledd yn y maes plismona
30ain Medi 2022
Roeddwn yn falch i fod yn bresennol mewn cynhadledd yr wythnos hon a oedd yn edrych ar anabledd yn y maes plismona. Er ei bod yn gynhadledd genedlaethol roedd wedi’i threfnu’n rhannol gan Heddlu Gwent ac roedd Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman yn chwarae rhan arweiniol.
Yn ogystal â chlywed am brofiadau personol pobl a oedd yn bresennol, gwnaethom edrych ar ffyrdd i wella hygyrchedd i bobl ag anableddau, a beth mwy y gallwn ni ei wneud i gefnogi swyddogion a staff. Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i weithredu’n well a byddwn yn defnyddio’r hyn a ddysgwyd a’r enghreifftiau o arfer gorau o’r gynhadledd hon i weld sut gallwn wneud gwelliannau pellach.