Cyngor atal trosedd i deuluoedd yng Nghasnewydd

21ain Chwefror 2025

Mae swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd wedi rhoi cymorth i Heddlu Gwent wrth iddynt roi cyngor diogelwch cymunedol i rieni newydd yng Nghasnewydd.

Aeth y tîm i ymweld â Bundles Baby Banc yn Tŷ Cymunedol, sy'n cynnig man diogel i rieni ddod at ei gilydd gyda'u rhai bach. Gwnaethant weithio mewn partneriaeth â swyddogion i roi eitemau diogelwch cymunedol, larymau personol a dyfeisiau diogelwch cartref i'r grŵp.

Mae Bundles Baby Bank yn rhoi cyfle i rieni ofyn am gyngor a chymorth, ac maen nhw'n gallu cael eitemau babanod hanfodol yno, fel dillad ail law a chewynnau. Mae'n cael ei gynnal bob dydd Gwener rhwng 10.30am a 11.30am yn Tŷ Cymunedol, Casnewydd. Gellir atgyfeirio ar wefan Eich Casnewydd.