Cymunedau'n trechu #Her149 ar gyfer Diwrnod Rhuban Gwyn
Mae trigolion a sefydliadau ledled Gwent wedi derbyn diolch am gymryd rhan yn #Her149 Diwrnod Rhuban Gwyn Gwent.
Nod y digwyddiad oedd codi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod Rhuban Gwyn, Diwrnod Cenedlaethol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod.
Yn 2018, cafodd 149 o fenywod eu lladd gan ddynion yn y DU. Cafodd dros hanner ohonynt eu lladd gan gyn briod neu bartner, a lladdwyd ymron i bob un ohonynt gan ddyn yr oeddent yn ei adnabod. Nod #Her149 oedd codi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a thrais rhywiol, ac annog unrhyw un sy'n dioddef i geisio cymorth.
Cwblhawyd amrywiaeth eang o heriau gan bobl o bob oedran, gan gynnwys rhedeg am 149 munud, nofio hyd pwll 149 o weithiau, paentio a chuddio 149 o gerrig ledled Gwent, gosod 149 o rubanau gwyn o gwmpas Parc Blaenafon a Phont-y-pŵl, a gwneud 149 o gardiau Nadolig i'r dosbarthu mewn cartref preswyl lleol.
Cafodd yr ymgyrch gefnogaeth gan glybiau chwaraeon lleol, gan gynnwys Newport County, lle bu chwaraewyr y tîm yn gwisgo crysau-T Diwrnod Rhuban Gwyn wrth ymarfer ar gyfer eu gem yn erbyn Walsall. Rhoddodd y clwb faner Rhuban Gwyn yn Eisteddle Bisley yn Rodney Parade hefyd.
Bu pobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y grŵp cymuned PL Kicks yn Alway, sy'n cael ei redeg gan Newport County ac yn derbyn rhywfaint o'i arian gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, yn cyfrannu at drafodaeth i godi ymwybyddiaeth o gydberthnasau diogel a thrais yn erbyn menywod. Cyflawnodd y grŵp ei #Her149 ei hun hefyd a oedd yn cynnwys pasio'r bêl 149 gwaith yn ystod eu sesiwn.
Ymunodd Chwaraeon Caerffili yn yr her hefyd, gan annog clybiau chwaraeon lleol i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Gosodwyd her wahanol ar gyfer pob dydd rhwng 25 Tachwedd a 10 Rhagfyr, cyfnod o 16 diwrnod o weithredu i gefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn.
Cafodd #Her149 ei gydlynu gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gwent, cydweithrediad amlasiantaeth sy’n gweithio ar draws Gwent i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Estynnodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, ei ddiolch i bawb a gymrodd ran: "Roedd cefnogaeth sefydliadau, grwpiau a phobl ledled Gwent i #Her149 eleni yn ysgubol.
"Roedd yn ysbrydoledig ac mae gen i barch enfawr at y cyfoeth o weithgareddau arloesol a chreadigol a oedd i'w gweld ar draws Gwent. Roedd yn wych gweld pobl ifanc yn cymryd rhan ac yn wybodus am y materion sy'n gallu effeithio arnyn nhw a'u teuluoedd. Gall wneud gwahaniaeth mawr i genedlaethau'r dyfodol.
“Gosodwyd esiampl gan y Prif Gwnstabl Pam Kelly a'r Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman yn Heddlu Gwent, a osododd heriau personol iddynt eu hunain i dynnu sylw at bwysigrwydd Diwrnod Rhuban Gwyn. Rydym yn rhannu safbwynt clir na ellir goddef cam-drin domestig a bod angen i unrhyw un sy'n dioddef geisio cymorth. Gall cam-drin ddigwydd ar unrhyw adeg, i unrhyw un. Codwch eich llais os ydych yn cael eich cam-drin. Peidiwch â dioddef yn dawel.”
Os ydych yn dioddef cam-drin domestig, mae cymorth ar gael:
- Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24/7 trwy ffonio 0808 8010 800 neu drwy anfon neges destun at 078600 77333.
- Gall dioddefwyr cam-drin gysylltu â chanolfan dioddefwyr Connect Gwent ar 0300 1232133.
- I riportio digwyddiad wrth Heddlu Gwent, ffoniwch 101 neu anfonwch neges uniongyrchol at ddesg cyfryngau cymdeithasol Heddlu Gwent #heddlugwent. Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng. Os nad ydych yn gallu siarad, pwyswch 55 i roi gwybod i'r cysylltydd nad yw'n bosibl cyfathrebu a bydd yn anfon cymorth.