Cymunedau Gwent i elwa ar arian atal troseddu
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi derbyn £699,564 gan y Swyddfa Gartref i ariannu mesurau atal troseddu yn Pillgwenlli yng Nghasnewydd a Rhymni yng Nghaerffili.
Bydd yr arian o'r gronfa ‘Safer Streets’ yn helpu i fynd i’r afael â’r mathau mwyaf cyffredin o drosedd sef byrgleriaeth, lladrad, dwyn oddi wrth unigolyn a throseddau cerbydau.
Mae hyn yn cynnwys dosbarthu gwell dyfeisiau diogelwch cartref fel cloeon a synwyryddion i aelwydydd, a gosod camerâu teledu cylch cyfyng mewn clychau drws i gannoedd o eiddo yn yr ardal.
Dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: "Mae hyn yn newyddion gwych ac mae’n dilyn misoedd lawer o waith partneriaeth rhwng fy swyddfa i, Heddlu Gwent a’r awdurdodau lleol.
"Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gynnal dwy fenter atal troseddau wedi'u targedu yn Pillgwenlli yng Nghasnewydd a Rhymni yng Nghaerffili, gan ddatblygu gwaith presennol yn yr ardaloedd hyn i atal troseddu a chadw ein cymunedau'n ddiogel."
Bydd tîm ‘Dangos y Drws i Drosedd’ Heddlu Gwent yn chwarae rhan allweddol yn y prosiect.
Bydd y tîm yn gosod arwyddion gyda’r nod o atal troseddwyr rhag cyflawni troseddau yn y lle cyntaf a rhoi pennau ysgrifennu SmartWater ac UV i alluogi preswylwyr i farcio eu heiddo'n fforensig os bydd lladrad neu achos o ddwyn.
Mae mesurau eraill yn cynnwys siarad â manwerthwyr nwyddau ail-law a allai ddod i gysylltiad ag eitemau wedi'u dwyn y mae bwriad eu gwerthu i'r cyhoedd.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman: "Rydym ni eisiau i’n holl gymunedau deimlo’n ddiogel yn yr ardaloedd y maen nhw’n byw ynddyn nhw.
"Mae pob trosedd yn cael effaith negyddol ar y cyhoedd felly mae unrhyw fesurau y gallwn ni eu cymryd i ymdrin â'r materion hyn a gwneud i bobl deimlo’n llai ofnus ynghylch troseddu yn gam cywir ar y daith.
"Mae'r tactegau y byddwn ni’n eu defnyddio, dan arweiniad ein tîm Dangos y Drws i Drosedd, nid yn unig wedi'u cynllunio i atal a lleihau troseddu ond hefyd yn helpu pobl i newid y ffordd y maen nhw’n cadw eu hunain, eu hanwyliaid a'u hoff eitemau yn ddiogel."