Cymorth ychwanegol i ddioddefwyr cam-drin domestig

11eg Chwefror 2022

Mae Heddlu Gwent yn darparu offer diogelwch ychwanegol i dros 1,200 o ddioddefwyr cam-drin domestig i'w helpu nhw i deimlo'n fwy diogel yn eu cartrefi eu hunain.

Bydd y llu yn rhoi pecynnau diogelwch i ddioddefwyr cam-drin domestig, trais domestig, a stelcio ac aflonyddu ledled Gwent. Bydd y pecynnau'n cynnwys cloch drws fideo, cilbost drws, larwm personol gyda thortsh, ynghyd â chyngor diogelwch personol a manylion gwasanaethau cymorth.

Mae'r pecynnau'n rhan o brosiect diogelwch personol dioddefwyr sy'n cael ei ariannu o grant cyfalaf £150,000 trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Lywodraeth Cymru.

Bydd y pecynnau diogelwch hyn yn ychwanegol at gamau diogelu mae'r heddlu a gwasanaethau cymorth yn eu cymryd eisoes. Gall dioddefwyr cam-drin domestig yn y categori risg uwch gael cymorth gwella diogelwch tebyg ar hyn o bryd trwy wasanaethau sy'n bodoli'n barod.

Meddai Ditectif Arolygydd Chris Back, o'r tîm diogelu cam-drin domestig:

“Mae cefnogi dioddefwyr cam-drin domestig a dwyn troseddwyr gerbron y llysoedd yn flaenoriaeth i ni o hyd yma yn Heddlu Gwent. Gall y troseddau erchyll hyn adael dioddefwyr yn teimlo'n fregus iawn yn eu cartrefi eu hunain ac yn y cymunedau maen nhw'n byw ynddynt.

"Rydym yn gweithio'n agos gydag asiantaethau partner i roi cymorth a diogelwch i ddioddefwyr cam-drin domestig. Dylai pawb deimlo'n ddiogel; rydym yn gobeithio y bydd y camau diogelu ychwanegol hyn yn rhoi sicrwydd a chysur i bobl sydd eu hangen.

“Ni ddylai unrhyw un ddioddef yn dawel – os ydych chi'n profi cam-drin domestig dywedwch wrthym. Byddwn yn gwrando ac yn eich cadw chi'n ddiogel. Yn awr, yn fwy nac erioed, mae angen i bob un ohonom ni fod yn ofalus o'n gilydd - os ydych chi'n pryderu bod aelod o’r teulu, neu gydweithiwr yn dioddef cam-drin domestig, codwch eich llais.”

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Dylai cartref fod yn fan diogel ond, yn anffodus, i lawer o ddioddefwyr cam-drin domestig, rydym yn gwybod nad yw hynny bob amser yn wir.

"Mae cefnogi dioddefwyr cam-drin domestig yn flaenoriaeth bwysig i ni a bydd y cyllid ychwanegol hwn gan Lywodraeth Cymru yn galluogi Heddlu Gwent i amddiffyn dioddefwyr ymhellach i helpu i'w cadw nhw'n ddiogel yn eu cartrefi."

Gallwch riportio cam-drin domestig wrthym ni:
• Trwy ffonio 101
• Ar-lein
• Trwy neges uniongyrchol ar Twitter a Facebook
• Trwy ffonio 999 mewn argyfwng

Siaradwch â #BywHebOfn yn gyfrinachol:
0808 80 10 800
Neges destun - 0786 007 7333
E-bostiwch info@livefearfreehelpline.wales