Cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol
Mae cyllid o £139,000 ar gael i wasanaethau sy'n rhoi cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Ngwent.
Gellir defnyddio'r cyllid gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder i roi cymorth i ddioddefwyr a'u teuluoedd sydd wedi profi camdriniaeth ar unrhyw bwynt yn eu bywydau.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: "Daw'r cyllid hwn ar adeg hollbwysig. Rydym yn gwybod nad yw'r troseddau hyn yn cael eu riportio digon a bod hyn wedi gwaethygu yn ystod y pandemig. Rydym yn gwybod hefyd bod pwysau eithriadol ar wasanaethau ar hyn o bryd a bod llawer ohonynt yn wynebu ansicrwydd ariannol.
“Bydd yr arian hwn yn ein helpu ni i ddarparu gwasanaethau hanfodol i ddioddefwyr yng Ngwent ac i roi cymorth i rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.”