Cyllid cam-drin domestig wedi ei gymeradwyo ar gyfer Gwent
Mae gwasanaethau sy'n rhoi cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Ngwent yn mynd i elwa ar gyllid o dros £200,000.
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi croesawu grant gan Y Weinyddiaeth Cyfiawnder a fydd yn helpu sefydliadau lleol gyda chostau ychwanegol o ganlyniad i'r pandemig COVID-19.
Dywedodd Jeff Cuthbert: "Rwyf wrth fy modd bod ein cais i'r Swyddfa Gartref wedi bod yn llwyddiannus.
“Bydd y cyllid hwn yn helpu chwech o elusennau rheng flaen i roi'r cymorth sydd ei angen i oroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol.
"Mae Heddlu Gwent a'n partneriaid allweddol wedi bod yn gweithio'n ddiflino ers dechrau'r cyfyngiadau symud yn helpu rhai o'n trigolion mwyaf bregus. Yn anffodus, i lawer o bobl, nid yw eu cartref y lloches y dylai ei fod oherwydd cam-drin domestig a thrais rhywiol.
"Mae'n hollbwysig ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni i fynd i'r afael â hyn a bydd y cyllid hwn yn helpu i sicrhau bod gan rai o'n partneriaid allweddol yr adnoddau i roi cymorth i'r bobl sydd ei angen fwyaf.
Mae cyfanswm o £201,553 yn cael ei roi i Llwybrau Newydd, Cyfannol, Phoenix Domestic Abuse, BAWSO, Llamau a Chymorth i Ddioddefwyr.
Dywedodd Prif Gwnstabl Pam Kelly: "Dyma newyddion gwych ein bod ni wedi sicrhau cyllid ychwanegol i'r elusennau hanfodol hyn, yn arbennig ar adeg pan rydym yn gweld cynnydd mewn galwadau sy'n gofyn am gymorth. Os ydych chi'n profi cam-drin domestig, peidiwch â dioddef yn dawel. Codwch eich llais. Mae help ar gael a, thrwy weithio gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth wrth roi cymorth i rai o aelodau mwyaf bregus ein cymuned."
Os ydych chi'n profi cam-drin domestig a thrais rhywiol, mae cyngor ar gael ar wefan Diogelu Gwent.
Gallwch ffonio Byw Heb Ofn, llinell gymorth Llywodraeth Cymru, am ddim ar 0808 8010 800 hefyd. Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.