Cyllid ar gael i brosiectau sy'n meithrin cydlyniant cymunedol

20fed Chwefror 2026

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd yn rhoi cyllid i brosiectau sy'n helpu i feithrin cydlyniant cymunedol a chodi ymddiriedaeth a hyder mewn gwasanaethau cyhoeddus ledled Gwent.

Gall grwpiau cymunedol, elusennau, mentrau cymdeithasol, a sefydliadau sy'n canolbwyntio ar y gymuned wneud cais am hyd at £5,000 i gefnogi eu prosiectau a digwyddiadau.

Dywedodd: “Mae pobl ledled Gwent wedi dweud wrtha’i eu bod nhw eisiau cymunedau saffach, cryfach, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u hamddiffyn. Un ffordd y gallwn gyflawni hyn yw trwy ddatblygu prosiectau a digwyddiadau sy'n dod â phobl at ei gilydd ac yn cefnogi'r rheini sy’n aml ar yr ymylon.

" Mae gan ein cymunedau'r pŵer i greu newid parhaus, a nhw sydd yn y lle gorau i arwain y newid hwnnw. Mae angen y cymorth cywir arnyn nhw i wneud hynny. Rwy'n falch i fuddsoddi yn y posibilrwydd yna ac i ddefnyddio arian sy'n cael ei adfeddiannu o weithgarwch troseddol i helpu i adeiladu cymdeithas decach a saffach."

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.gwent.pcc.police.uk/cy/y-hyn-rydym-yn-ei-wario/comisiynu/gronfa-ymgysylltu-cymunedol