Cyllid ar gael ar gyfer grwpiau cymunedol
29ain Medi 2022
Rydym yn derbyn ceisiadau am gyllid gan Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent.
Os ydych chi’n grŵp cymunedol, sefydliad gwirfoddol neu elusen sy’n mentora neu’n cefnogi pobl ifanc, gallwch ymgeisio am grant o hyd at £5000.
Rwyf yn cyfrannu rhyw £65,000 at y gronfa hon sy’n helpu i sicrhau bod grwpiau cymunedol ar lawr gwlad yn gallu cael cyllid angenrheidiol i gefnogi pobl ifanc yn eu hardaloedd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Sefydliad Cymunedol Cymru.