Cyfres newydd o 'Crash Detectives'
28ain Ionawr 2020
Nos Lun, dechreuodd cyfres newydd o'r gyfres lwyddiannus 'Crash Detectives' ar y BBC, sy'n dilyn Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau ar y Ffyrdd Heddlu Gwent.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Mae'r rhaglen yn rhoi cipolwg hynod o ddiddorol ar faes cymhleth o blismona a gwnaeth proffesiynoldeb a gwybodaeth y swyddogion argraff fawr arnaf pan es i ymweld â nhw'n ddiweddar.
“Mae 'Crash Detectives' ar BBC Cymru am 8.30pm ar nos Lun, neu gellir gwylio'r rhaglen ar BBC iPlayer.”