Cyfleoedd cymunedol Cil-y-coed
12fed Ionawr 2023
Yr wythnos hon ymunais â Heddlu Gwent a phartneriaid ar gyfer digwyddiad yn Store 21 yng Nghil-y-coed.
Pwrpas y digwyddiad oedd dod â phobl at ei gilydd i drafod materion pwysig fel yr argyfwng costau byw, cyfleoedd i bobl ifanc, a phroblemau sy'n effeithio ar y dref.
Roedd yn ddigwyddiad cadarnhaol ac yn gyfle gwych i bartneriaid ddod ynghyd i weld sut y gallwn gydweithio'n agosach er budd pawb yng Nghil-y-coed.