Cyfarfod Cyngor Tref Brynmawr
Ymunais ag Arolygydd Shane Underwood o Heddlu Gwent am gyfarfod gyda Chyngor Tref Brynmawr yr wythnos hon.
Cawsom drafodaeth gadarnhaol am rai o'r problemau yn y dref sy'n cynnwys problemau parcio a beicio oddi ar y ffordd. Mae tîm Arolygydd Underwood wedi bod yn gwneud llawer o waith i roi sylw i’r broblem beicio oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon, ond mae'n drosedd arbennig o anodd ei phlismona. Os oes gennych chi wybodaeth am rywun sy'n beicio oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon, riportiwch y mater drwy ffonio 101, neu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Heddlu Gwent.
Gwnaethom nodi'r angen am well darpariaeth ar gyfer pobl ifanc yn ardal Brynmawr gyda'r cynghorwyr hefyd. Rwyf yn falch eu bod yn mynd i weithio gyda ni yn y dyfodol i ganfod grwpiau a lleoliadau lleol a allai helpu.