Cyfarfod Briffio gyda Gweinidog Plismona’r DU
Yr wythnos hon ymunais â chyd-gomisiynwyr yr heddlu a throsedd o bob rhan o’r wlad am gyfarfod briffio gyda Gweinidog Plismona’r DU, Kit Malthouse.
Llofruddiaeth erchyll Sarah Everard oedd ar frig yr agenda. Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai lleihau treisio ac ymosodiadau rhywiol ar fenywod a merched yn rhan nodweddiadol o waith polisi’r llywodraeth yn y dyfodol. Dywedodd hefyd y byddai prosesau fetio swyddogion newydd yn cael eu gwneud yn fwy cadarn, gan dalu sylw arbennig i’r cod ymarfer a gynhyrchir gan y Coleg Plismona.
Roeddwn yn falch o glywed y bydd cronfa Strydoedd Saffach, y mae Gwent wedi elwa arni yn y blynyddoedd diweddar yn parhau. Dywedodd y Gweinidog fod y llywodraeth yn gofyn am brosiectau mewn ardaloedd gwledig, ac mae hwn yn rhywbeth y byddwn yn ei drafod gyda Heddlu Gwent a phartneriaid awdurdod lleol yn awr gyda golwg ar geisio am ragor o arian gan y gronfa.
Dywedodd wrthym hefyd fod gwaith wedi dechrau ar fformiwla ariannu a fydd yn penderfynu faint o arian y bydd Heddlu Gwent yn ei dderbyn yn y dyfodol. Ar hyn o bryd mae ychydig dros 50 y cant o gyllideb Heddlu Gwent yn dod gan y llywodraeth ganolog, ac mae’r gweddill yn dod gan drethdalwyr treth y cyngor lleol.
Mae penderfynu faint y dylai trigolion dalu tuag at blismona yn un o fy nghyfrifoldebau i, ac rwyf yn ystyried hwn i fod yn gyfrifoldeb eithriadol o bwysig. Rwyf yn gofyn am farn trigolion am y mater hwn a materion eraill ar hyn o bryd, felly cymrwch funud neu ddwy i leisio eich barn.