Cydweithio i frwydro troseddau casineb
Yr wythnos hon mae fy nhîm wedi bod yn ymweld â threfi ledled Gwent i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb a sut i'w riportio.
Mae'r tîm wedi ffurfio partneriaeth â sefydliadau sy'n cynnwys Heddlu Gwent, Connect Gwent, Fearless, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Umbrella Cymru a Cymorth i Ddioddefwyr Cymru er mwyn darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth i drigolion.
Mae gweithio mewn partneriaeth â chymaint o sefydliadau'n tynnu sylw at y cyfoeth o wasanaethau sydd gennym yng Ngwent i helpu a chefnogi unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan drosedd y maent yn teimlo sy'n cael ei chyfeirio atyn nhw oherwydd eu hil, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, anabledd, neu rywedd.
Rwy'n annog unrhyw un sy'n teimlo eu bod wedi ei dioddef i’w riportio.