Cydnabyddiaeth i wasanaeth sy’n trawsnewid bywydau troseddwyr benywaidd yn Ne Cymru
Mae menter sy’n cefnogi troseddwyr benywaidd yn Gwent, yn sicrhau eu lles ac yn rhoi cymorth iddynt dorri’r cylch troseddu a gwella eu bywydau wedi cael cydnabyddiaeth gan Howard League for Penal Reform.
Mae Dull System Gyfan y Cynllun Braenaru i Fenywod yn darparu ymyrraeth gynnar a chymorth wedi’i dargedu i gefnogi troseddwyr benywaidd. Mae'n rhoi cefnogaeth iddynt gyda phroblemau fel camddefnydd alcohol a sylweddau, problemau iechyd meddwl a gwella perthnasoedd o fewn teuluoedd. Ei nod yw lleihau nifer y menywod yn y system cyfiawnder troseddol, lleihau ail droseddu, a helpu menywod i fyw bywydau iachach, mwy diogel.
Derbyniodd y gydnabyddiaeth yn rhan o Wobrau Cymunedol 2021 Howard League sy’n cydnabod cynlluniau llwyddiannus sy’n lleihau trosedd a thrawsnewid bywydau.
Lansiwyd y gwasanaeth ym mis Hydref 2019 a chaiff ei gomisiynu ar y cyd gan gomisiynwyr yr heddlu a throsedd Gwent a De Cymru, Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM yng Nghymru, ac yn cael ei ddarparu gan Gonsortiwm Future 4 - G4S, Cymru Ddiogelach, Include a Llamau.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae Dull System Gyfan y Cynllun Braenaru i Fenywod yn sicrhau bod menywod a merched sy’n dod i mewn i’r system cyfiawnder troseddol yn derbyn gofal, a bod eu hiechyd a lles hirdymor yn cael eu hystyried trwy gydol eu siwrnai trwy’r broses cyfiawnder troseddol.
“Mae’r gydnabyddiaeth hon yn haeddiannol iawn. Mae’r gwasanaeth yn enghraifft wych o gydweithio effeithiol rhwng sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, lleihau troseddu a helpu i gadw ein cymunedau’n ddiogel.”
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru, y Gwir Anrhydeddus Alun Michael: “Dyma gydnabyddiaeth galonogol o ddull rydym wedi bod yn ei ddefnyddio gyda’n gilydd am nifer o flynyddoedd, i leihau trosedd trwy adnabod yr achosion a mynd i’r afael â nhw gyda’n gilydd. Mae’n dangos gwerth cydweithredu ac yn profi y gallwn gyflawni mwy gyda’n gilydd nag y gallwn ni ar ein pennau ein hunain.
Mae’n seiliedig ar ofyn, pan fydd menyw’n cael ei thynnu i mewn i’r System Cyfiawnder Troseddol yn y lle cyntaf, pam mae’r ymddygiad troseddol wedi digwydd, beth yw ei hamgylchiadau, a chynnig llwybr bywyd newydd iddi trwy’r rhaglen.
Mae’r gydnabyddiaeth gan Wobrau Cymunedol Howard League yn destament i’r dull rydym wedi ei ddefnyddio’n gydweithredol ledled De Cymru a Gwent, yn gwella canlyniadau trwy ymyrraeth gynnar a chamau gweithredu prydlon a chadarnhaol, gan gydgysylltu ymyraethau angenrheidiol i gefnogi newid parhaol a meithrin cadernid.”
Meddai Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman: “Mae lleihau ail droseddu a dargyfeirio pobl oddi wrth ffordd o fyw sy’n gysylltiedig â throsedd yn rhan annatod o’r ffordd rydym yn cadw cymunedau Gwent yn ddiogel.
“Mae’r gwasanaeth hwn, fel cymaint o wasanaethau sy’n cael eu comisiynu trwy Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
“Trwy ymgysylltu’n rhagweithiol gyda throseddwyr benywaidd, gallwn helpu pobl i symud ymlaen gyda’u bywydau mewn ffordd ddiogel ac iach.”