Cydnabyddiaeth i Heddlu Gwent yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru

6ed Rhagfyr 2024

Mae swyddogion Heddlu Gwent wedi ennill tair gwobr gyntaf yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru.

Cafodd yr heddlu ei gydnabod am ei waith i fynd i'r afael â throseddau difrifol a threfnedig, annog perchnogaeth gyfrifol ar gŵn a'i waith arloesol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mlaenau Gwent.

Mae'r seremoni wobrwyo'n dod â lluoedd heddlu Cymru at ei gilydd gydag awdurdodau lleol, a gwasanaethau tân ac iechyd i gydnabod arfer da a dulliau partner o fynd i’r afael â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Roeddwn yn falch iawn i fod yn bresennol yn y seremoni wobrwyo a chlywed am y gwaith gwych sy'n digwydd ledled Cymru i roi sylw i drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau.

"Wrth reswm, roeddwn yn arbennig o falch i weld Heddlu Gwent yn cipio tair gwobr gyntaf, a hoffwn longyfarch pob un o'r swyddogion a staff sy'n gyfrifol am y cynlluniau yma am eu gwaith caled, a'u hymroddiad i wneud Gwent yn lle mwy diogel.

"Mae'r seremoni wobrwyo'n gyfle i rannu arfer da a syniadau arloesol, ac yn un o'r ffyrdd rydym yn gweithio ledled Cymru i gyflawni er mwyn ein cymunedau."

Derbyniodd Heddlu Gwent wobr gyntaf yn y categorïau canlynol:

  • Diogelwch y cyhoedd Am yr ymgyrch LEAD sy'n golygu Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Leol o Gŵn (Local Environmental Awareness on Dogs). Lansiwyd LEAD yng Nghaerffili yn 2023, cyn iddo gael ei fabwysiadau yn awdurdodau lleol eraill Gwent yn gynharach eleni. Mae'r ymgyrch yn annog perchnogaeth gyfrifol ar gŵn, ac mae ganddo lwybr clir o orfodaeth ar gyfer perchnogion anghyfrifol.
  • Troseddau trefnedig Am ei gyfraniad i fynd i'r afael â throseddau trefnedig. Dros y saith mis diwethaf, mae'r tîm wedi gwneud 112 arést, wedi atafaelu dros £300,000, 160 ffôn symudol, a 2.2 cilogram o gyffuriau dosbarth A.
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol. Am arfer arloesol tasglu ymddygiad gwrthgymdeithasol Blaenau Gwent i fynd i’r afael ag ymddygiad troseddol a gwrthgymdeithasol, a lwyddodd i atal dwysâd ac ail achosion.