Cydnabyddiaeth am Ragoriaeth
Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi derbyn gwobr genedlaethol am dryloywder.
Mae 41 Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ledled Cymru a Lloegr ac mae swyddfa Gwent ymysg 25 a dderbyniodd Farc Ansawdd Tryloywder yr wythnos hon.
Dyfarnwyd y Marc Ansawdd gan Swyddfa Cymharu Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (CoPaCC), corff cenedlaethol annibynnol sy’n monitro gwaith llywodraethu'r heddlu. Mae CoPaCC yn cydnabod perfformiad rhagorol gan gomisiynwyr yr heddlu a throseddu a’u swyddfeydd trwy ddyfarnu Gwobrau CoPaCC yn rheolaidd.
Yn ystod digwyddiad a gynhaliwyd yn Llundain gan y corff sy’n arwain ar sicrwydd yr heddlu, Grant Thornton, cyflwynwyd y Marc Ansawdd Tryloywder i Brif Weithredwr Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Siân Curley, a Joanne Regan, swyddog gwybodaeth gan Brif Weithredwr CoPaCC, Bernard Rix ynghyd â Paul Grady, Pennaeth yr Heddlu yn Grant Thornton.
Dyfarnwyd gwobr CoPaCC am y ffordd mae’r Comisiynydd a’i swyddfa’n darparu gwybodaeth allweddol ar gyfer y cyhoedd mewn fformat hygyrch ar y wefan gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn â phwy yw’r Comisiynydd a beth mae ef a’i swyddfa’n ei wneud, ar beth a sut maen nhw’n gwario eu harian, eu blaenoriaethau, sut maen nhw’n gwneud penderfyniadau a gwybodaeth am gwynion, polisïau a gweithdrefnau.
Wrth longyfarch y tîm ar eu gwobr, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Rwyf wrth fy modd bod fy swyddfa wedi cael ei chydnabod am y drydedd flwyddyn yn olynol am fodloni’r gofynion statudol ar gyfer bod yn dryloyw. Rwy’n cael fy nwyn i gyfrif ar lefel lleol gan y cyhoedd ac mae’n bwysig bod fy swyddfa’n darparu gwybodaeth gyfredol a chlir sy’n ddealladwy. Mae’r wobr hon yn dangos y gall y cyhoedd fod yn hyderus bod y wybodaeth a ddarperir gennym ni’n hygyrch a thryloyw.”
Dywedodd, Siân Curley, Prif Weithredwr Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent: "Mae’n hanfodol ein bod yn agored a thryloyw gyda’r gymuned a’n bod yn darparu gwybodaeth y gellir mynd ati’n rhwydd. Hoffwn longyfarch y tîm ar eu hymdrechion yn bodloni’r safonau gofynnol yn gyson."
Dywedodd Prif Weithredwr CoPaCC, Bernard Rix: "Mae’r swyddfeydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu hyn i gyd wedi dangos eu bod yn dryloyw yn yr hyn maen nhw’n ei wneud, yn bodloni gofynion cyfreithiol perthnasol. Maen nhw’n cyflwyno gwybodaeth allweddol mewn fformat hygyrch ar eu gwefannau a hoffwn longyfarch pob un ohonynt ar eu gwaith da. Edrychaf ymlaen at yr hyn a fydd yn barhad o’r gwaith ardderchog gan bob un ohonynt yn y maes hwn."
Am wybodaeth bellach, ewch i www.gwent.pcc.police.uk