Cydnabod ein gwirfoddolwyr

19eg Gorffennaf 2024

Roeddwn yn falch i gwrdd â gwirfoddolwyr o ddau o'r cynlluniau sy'n cael eu rheoli gan fy swyddfa.

Mae Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn sicrhau bod Heddlu Gwent yn bodloni'r amodau caeth sy'n ofynnol o fewn eu dalfeydd. Maen nhw hefyd yn gwirio lles pobl sy'n cael eu cadw yn y ddalfa.

Ymwelwyr Lles Anifeiliaid sy'n gyfrifol am wirio lles cŵn heddlu Gwent, gartref, yn y gwaith, neu mewn cytiau cŵn yn ne Cymru. Maen nhw'n sicrhau bod yr anifeiliaid yn hapus, yn iach, a'u bod yn derbyn gofal.

Mae'r holl wirfoddolwyr yma'n chwarae rhan hanfodol yn fy helpu i ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif ar ran cymunedau Gwent, a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu gwaith caled.  Maen nhw'n fy helpu i wneud gwahaniaeth ac rwyf yn edrych ymlaen at ymuno â'r gwirfoddolwyr ar eu hymweliadau yn y dyfodol agos.

Er fy mod yn newydd i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, nid wyf yn newydd i wasanaeth cyhoeddus.  Rwyf yn gwybod pa mor allweddol yw gwaith gwirfoddolwyr, yn cefnogi gwasanaethau hanfodol, edrych ar ôl aelodau bregus ein cymunedau, a rhoi cyfleoedd sy'n newid bywyd i'n plant a phobl ifanc.

Mae pob awr a dreulir yn gwirfoddoli yn gwneud gwahaniaeth mewn rhyw ffordd a heb ewyllys da, gwaith caled, ac ymroddiad gwirfoddolwyr niferus Gwent byddai ein cymdeithas cymaint yn dlotach.

Felly, hoffwn ddiolch i holl wirfoddolwyr Gwent, beth bynnag yw eich rôl, am bopeth rydych yn ei wneud er mwyn ein cymunedau.

Dysgwch fwy: Chwarae Rhan | Gwent Police and Crime Commissioner (pcc.police.uk)