Cwrdd â Heddlu Bach Blaenafon
14eg Mehefin 2022
Pleser oedd ymweld ag Ysgol Treftadaeth Blaenafon yn ddiweddar i gwrdd ag uned Heddlu Bach yr ysgol.
Mae gan Blaenafon uned Heddlu Bach rhagweithiol iawn sy’n cwrdd o leiaf unwaith yr wythnos ac sy’n cynnal gweithgareddau fel patrolau parcio y tu allan i’r ysgol a chasglu sbwriel yng nghanol y dref.
Treuliodd y plant awr yn fy holi ynglŷn â fy ngwaith fel Comisiynydd ar gyfer podlediad a fydd ar gael ar wefan yr ysgol yn fuan.
Mae meithrin ymddiriedaeth rhwng pobl ifanc a’r heddlu yn hanfodol.
Mae’r cynllun Heddlu Bach yn helpu i gyflawni hyn ac yn rhoi cyfle i blant wneud ffrindiau newydd a datblygu sgiliau newydd a fydd yn ddefnyddiol iddyn nhw am weddill eu hoes.