Creu Strydoedd Saffach yng Nghoed-duon
Roeddwn yn falch i weld llawer o bobl yn bresennol yn nigwyddiad atal trosedd Heddlu Gwent yn ASDA Coed-duon ar y penwythnos. Mae hwn yn rhan o'r gwaith rydym yn ei wneud trwy gronfa Strydoedd Saffach y Swyddfa Gartref i fynd i'r afael â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref.
Rhoddodd yr heddlu bron i 500 o becynnau diogelwch cartref a cherbydau am ddim i drigolion. Roedd y rhain yn cynnwys eitemau fel offer marcio eiddo, offer diogelu platiau rhif a larymau sied.
Yn ôl ym mis Rhagfyr 2022, gosodwyd 18 camera teledu cylch cyfyng newydd yng Nghoed-duon hefyd a fydd yn atal trosedd ac yn cynorthwyo swyddogion sy'n cynnal ymchwiliadau yn yr ardal.
Mae'r prosiect yn ganlyniad misoedd lawer o waith partner rhwng fy swyddfa, Heddlu Gwent a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac rwyf wrth fy modd i'w weld yn gwneud gwahaniaeth yn y gymuned.
Dysgwch fwy am y cynllun Strydoedd Saffach