Creu cymunedau mwy diogel: Y Comisiynydd yn cyhoeddi adroddiad blynyddol cyntaf

16eg Medi 2025

Mae Jane Mudd, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, wedi cyhoeddi ei hadroddiad blynyddol, sy'n myfyrio ar flwyddyn gyntaf drawsnewidiol yn y swydd.

Mae'r adroddiad yn dangos cyfres o gyflawniadau allweddol sydd wedi gosod y sylfeini ar gyfer Gwent mwy diogel a thecach. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Penodi Prif Gwnstabl newydd i arwain Heddlu Gwent
  • Datblygu a lansio Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder newydd ar gyfer Gwent
  • Pennu cyllideb yr heddlu i gyflawni blaenoriaethau'r cynllun
  • Buddsoddi'n sylweddol mewn gwasanaethau sy'n cefnogi dioddefwyr troseddau
  • Hyrwyddo cynlluniau dargyfeirio i helpu'r rhai sydd mewn perygl o droseddu neu ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol


Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ymrwymiad y Comisiynydd i dryloywder, atebolrwydd ac ymgysylltiad â'r gymuned, gan sicrhau bod lleisiau pobl leol yn cael eu clywed a'u hadlewyrchu mewn blaenoriaethau plismona.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Mae'r rôl hon wedi bod yn fraint o'r diwrnod cyntaf, ac mae'r cyfle i wasanaethu pobl Gwent wedi sbarduno pob penderfyniad rydw i wedi'i wneud.

"Mewn dim ond deuddeg mis, rydw i wedi gwneud tri o'r penderfyniadau mwyaf y gall Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd eu gwneud: sef penodi Prif Gwnstabl newydd, cyhoeddi fy ngweledigaeth ar gyfer plismona a chyfiawnder yng Ngwent, a phennu’r gyllideb i wireddu'r weledigaeth honno.

"Mae fy uchafbwyntiau personol yn cynnwys agor cyfleuster heddlu newydd yn y Fenni i hybu plismona yn y gymdogaeth yn yr ardal, a chynnal arddangosfa hynod deimladwy ar gyfer Diwrnod y Rhuban Gwyn a wnaeth gadarnhau i mi pam y mae'r gwaith hwn yn bwysig.

"Rwy'n falch o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni mewn cyfnod mor fyr, ac rwy'n addo i bobl Gwent y byddaf yn parhau i weithio'n ddiflino i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w cymunedau."

Darllenwch yr adroddiad