Creu Cymdogaethau Mwy Diogel
18fed Mawrth 2022
Yr wythnos hon ymunais â Heddlu Gwent yn ward Llanyrafon a Chroesyceiliog yng Nghwmbrân. Cyngor cymuned y ward hon yw'r cyntaf yng Ngwent i ymuno a'r cynllun Dangos y Drws i Drosedd.
Mae'r cyngor wedi darparu cyllid i alluogi Heddlu Gwent i gynnig pecynnau atal trosedd i'r holl drigolion lleol. Mae'r pecynnau'n cynnwys hylif Smartwater y gall trigolion ei ddefnyddio i farcio eu heiddo, ac arwyddion i atal lladron.
Drwy fod y cyngor lleol cyntaf i ymuno â'r cynllun, mae Cyngor Cymuned Croesyceiliog a Llanyrafon yn diogelu ei drigolion, gan helpu i wneud iddynt deimlo'n fwy diogel yn eu cartrefi, ac anfon neges glir i droseddwyr bod hon yn ardal i'w hosgoi.