‘Crash Detectives’ - cyfres tri
Mae’r gyfres lwyddiannus ‘Crash Detectives’, sy’n dilyn gwaith Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Heddlu Gwent, yn ôl ar y BBC.
Gellir gweld cyfres tri ar BBC Cymru bob nos Fawrth am 8:30pm, neu ar BBC iPlayer.
Cafodd cyfres flaenorol ei henwebu am Wobr Bafta Cymru yn y categori Cyfres Ddogfen Orau.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jeff Cuthbert: “Mae’r rhaglen yn rhoi cipolwg diddorol iawn ar faes cymhleth o blismona ac mae’n helpu’r cyhoedd i ddeall beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni pan fydd gwrthdrawiad traffig ffyrdd yn digwydd.
“Rwyf bob amser yn rhyfeddu at broffesiynoldeb a gwybodaeth y swyddogion ac mae’r rhaglen yn werth ei gwylio i unrhyw un sydd â diddordeb mewn deall mwy am sut mae’r heddlu’n gweithio.”
Gellir gweld ‘Crash Detectives’ ar BBC iPlayer.