Crash Detectives ar iPlayer yn awr
7fed Ebrill 2020
Mae ail gyfres 'Crash Detectives' ar gael i'w gwylio ar BBC iPlayer yn awr.
Mae sioe lwyddiannus iawn y BBC yn dilyn gwaith Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Heddlu Gwent a chafodd ei henwebu am wobr BAFTA Cymru am y Gyfres Ffeithiol Orau'r llynedd.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Mae'r rhaglen yn rhoi cipolwg hynod o ddiddorol ar faes cymhleth o blismona.
"Mae proffesiynoldeb a gwybodaeth drylwyr y swyddogion bob amser yn gwneud argraff ddofn arnaf, ac mae hwn yn gyfle gwych i ddal i fyny gyda'r gyfres os gwnaethoch chi ei cholli hi pan gafodd ei darlledu."
Gellir gweld 'Crash Detectives' ar BBC iPlayer.