Craffu ar y defnydd o rym

10fed Chwefror 2022

Wythnos diwethaf, daeth ein Panel Craffu ar Gyfreithlondeb annibynnol ynghyd, a chynhaliwyd adolygiad o ddigwyddiadau diweddar lle defnyddiwyd grym gan swyddogion Heddlu Gwent.

Pwrpas y panel yw sicrhau bod y defnydd o rym – fel defnyddio gefynnau a phwerau stopio a chwilio – yn cael ei wneud mewn ffordd deg ac effeithiol.

Mae Heddlu Gwent yn adolygu’r digwyddiadau hyn yn rheolaidd, ond mae’r panel, sy’n cynnwys fy nhîm i, aelodau o’r gymuned ac uwch swyddogion, yn cynnig haen ychwanegol o graffu i’r broses.

Adolygodd y panel hap sampl o glipiau fideo o gamerâu ar y corff, a rhoddwyd adborth ar amseriad y defnydd o gamerâu ac argymhelliad i roi hyfforddiant ychwanegol i swyddogion mewn ymateb i ddigwyddiadau penodol.

Rhoddodd aelodau’r panel adborth sylweddol i dynnu sylw at ymgysylltiad ardderchog gan swyddogion hefyd, yn enwedig wrth ymdrin ag unigolion sy’n agored i niwed.

Dim ond un o’r ffyrdd rydw i’n dal Heddlu Gwent i gyfrif ar ran y cyhoedd yw hyn, gan sicrhau bod yr heddlu’n darparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon.

Mae’r adroddiadau gan y paneli hyn ar fy ngwefan.