Craffu ar stopio a chwilio
Yr wythnos hon cynhaliwyd ein Panel Craffu ar Gyfreithlondeb annibynnol pan wnaethom hap samplu cofnodion stopio a chwilio diweddar Heddlu Gwent, ac adolygu fideo o gamerâu sy’n cael eu gwisgo ar y corff o ddigwyddiadau stopio a chwilio.
Diben y Panel Craffu ar Gyfreithlondeb yw sicrhau bod y digwyddiadau stopio a chwilio, a digwyddiadau pan fu defnydd o rym – fel defnyddio gefynnau - yn cael eu cynnal yn deg ac yn effeithiol, a bod unrhyw faterion yn cael eu nodi a'u trin yn briodol.
Bydd Heddlu Gwent yn adolygu'r digwyddiadau hyn yn fewnol yn rheolaidd ond mae'r panel, sy'n cynnwys fy nhîm i, aelodau o'r gymuned ac uwch-swyddogion, yn rhoi haen ychwanegol o graffu i’r broses.
Rwy'n cael gweld y canlyniadau a'r argymhellion o'r sesiynau hyn er mwyn eu hadolygu, a rhoddir yr adroddiad terfynol i Heddlu Gwent i'w ystyried a'i weithredu fel y bo'n briodol. Caiff cynnydd yn erbyn yr argymhellion ei fonitro yng nghyfarfod craffu mewnol Heddlu Gwent.
Mae hyn yn un o'r ffyrdd yr wyf yn dwyn Heddlu Gwent i gyfrif ar ran y cyhoedd, ac yn sicrhau gwasanaeth effeithlon ac effeithiol.
Gallwch weld yr adroddiadau o'r paneli hyn ar fy ngwefan.