County in the Community - Dathlu 10 mlynedd
Roeddem yn falch iawn i ymuno â phartneriaid i ddathlu penblwydd County in the Community yn 10 oed yr wythnos yma.
Sefydlwyd County in the Community yn 2013 ac mae'n elusen gofrestredig erbyn hyn sy'n cynnal sesiynau ymgysylltu â phobl ifanc mewn ardaloedd o angen yng Nghasnewydd.
Maen nhw'n ymgysylltu â phobl ifanc drwy chwaraeon a gweithgareddau eraill, ac mae County in the Community wedi derbyn cyllid gan fy swyddfa i ymestyn nifer y sesiynau maen nhw’n eu cynnig bob wythnos.
Nod y prosiect yw ysbrydoli pobl ifanc i wneud newid cadarnhaol yn eu bywydau ac yn eu cymunedau, darparu disgyblaeth a strwythur, a helpu pobl ifanc i gadw'n iach ac yn frwdfrydig.
Mae'r gwaith yma'n helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn lleol yn y gymuned, ond ni ellir gorbwysleisio buddiannau hirdymor y gwaith yma.
Trwy gynnig cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau, trwy roi man diogel iddyn nhw fynd yn eu cymunedau a thrwy gynnig cefnogaeth iddyn nhw gan fentoriaid sy'n oedolion, rydym yn helpu i atgyfnerthu ymddygiad da a meddwl cadarnhaol.
Rydym yn gosod seiliau a fydd yn eu galluogi nhw i gael dyfodol hapus ac iach.