Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn galw am godiad cyflog i swyddogion heddlu
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried y penderfyniad i rewi cyflogau swyddogion heddlu eleni.
Mae gweithwyr y sector cyhoeddus, ac eithrio staff y GIG, yn destun oediad cyflog y sector cyhoeddus ar gyfer 2021/22.
Mae’r Comisiynydd wedi ymuno â Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu ledled y DU, a chydweithwyr o Ffederasiwn yr Heddlu a Chyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu i fynegi ei siom ynglŷn â phenderfyniad y Llywodraeth, ac i alw am godiad cyflog i swyddogion a staff yr heddlu wedi’i ariannu’n ganolog yn y flwyddyn ariannol hon.
Dywedodd Jeff Cuthbert: “Fel staff y GIG, mae swyddogion yr heddlu wedi bod yn rheng flaen y pandemig hwn o’r cychwyn cyntaf.
“Maen nhw wedi bod yn peryglu eu hunain a’u teuluoedd bob dydd, gan fynd ymhell y tu hwnt i ddisgwyliadau eu swydd er mwyn cadw ein cymunedau yn ddiogel. Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn unwaith eto i ddiolch i swyddogion heddlu Gwent am bob dim y maen nhw wedi ei wneud i gadw pobl yn ddiogel drwy gydol y pandemig.
“Rwyf wedi fy siomi’n fawr fod eu gwasanaeth i’w gwlad wedi’i ddiystyru wrth wneud y penderfyniad hwn ac rwy’n annog Llywodraeth y DU i ailystyried y penderfyniad a chytuno ar godiad cyflog priodol ar gyfer ein heddluoedd eleni i gydnabod eu gwasanaeth rhagorol.”