Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn dathlu Mis Hanes Pobl Dduon
Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn adeg i ddod at ein gilydd a dathlu treftadaeth amlddiwylliannol gyfoethog Gwent.
Mae'n gyfle i ddysgu mwy am hanes, amrywiaeth a chyflawniadau'r rhai sydd wedi ei alw'n gartref. Fodd bynnag, mae hefyd yn amser i fyfyrio, i ddysgu, ac i edrych ymlaen at y dyfodol.
Mae ein heriau plismona yng Ngwent yn amrywio yn aruthrol ar draws ardal ddaearyddol gymharol fach, ac mae ein cymunedau yn newid yn gyflym.
Mae Covid-19 wedi golygu bod gwahaniaethau gwleidyddol presennol, a phryderon cymdeithasol ac economaidd, wedi dwysáu yn ystod y misoedd diwethaf. Mae lledaeniad y feirws hwn, ac effeithiau'r cyfyngiadau cymdeithasol a roddwyd ar waith i fynd i'r afael ag ef, wedi rhoi pwysau a galwadau amlwg ar bob un o'n cymunedau ond mae hyn wedi effeithio'n anghymesur ar ein cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Mae marwolaeth George Floyd yn America hefyd, yn ddealladwy, wedi golygu bod llawer yn y cymunedau hyn yn teimlo dicter a digalondid. Mae ffydd mewn plismona ledled y byd wedi'i ddifrodi.
Wrth symud ymlaen, mae’n rhaid i ni ailadeiladu ffydd gyda'r cymunedau hyn a'u sicrhau y bydd unrhyw un sy'n ymwneud â'r heddlu yng Ngwent yn cael ei drin yn gyfartal, yn deg a gyda pharch. Mae’n rhaid i ni ei gwneud yn glir na fydd casineb, ar unrhyw ffurf, yn cael ei oddef yma.
Mae'r chwe mis diwethaf wedi bod yn rhai o'r rhai mwyaf heriol yn gymdeithasol ac yn wleidyddol yn ystod fy oes i, ond bu rhai pethau cadarnhaol hefyd, a dyna mae'n rhaid i ni ganolbwyntio arno wrth symud ymlaen.
Mae'r sgyrsiau yr ydym wedi gorfod eu cael gyda'n cymunedau, a symud i lwyfannau digidol drwy anghenraid, wedi dod â ni yn nes at ein gilydd mewn sawl ffordd.
Bydd deialu cymunedol, a gychwynnwyd ar ddechrau'r cyfyngiadau symud cenedlaethol ym mis Mawrth fel ffordd i'n cymunedau godi materion lleol gyda'r heddlu a phartneriaid yn y sector cyhoeddus, yn parhau wrth symud ymlaen. Mae'r rhain yn fforymau pwysig ar gyfer rhannu gwybodaeth ac adeiladu perthynas.
Yn dilyn yr ymgysylltu hwn, mae’r Prif Gwnstabl Kelly a minnau bellach yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gydag arweinyddion cymunedol o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Gwent. Mae'r rhain wedi arwain at sgyrsiau hynod werthfawr, a rhai ohonynt wedi bod yn heriol, ond yn hollbwysig, rydym yn unfrydol o ran bod eisiau’r canlyniadau gorau posibl i'n cymunedau.
Rwyf hefyd wedi bod yn gweithio gyda'r Prif Gwnstabl i edrych yn fewnol ar ein sefydliadau ein hunain ac i sicrhau bod ein hymrwymiad cyffredin i gydraddoldeb hiliol ac amrywiaeth yn cael ei adlewyrchu ar draws ein gweithlu.
Mae'n bwysig, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, bod ein gweithluoedd i’w gweld yn adlewyrchu’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu fel y gall pobl fod yn ffyddiog ein bod yn deall eu hanghenion a'u disgwyliadau fel trigolion.
Mae gennym ni fwy o waith i'w wneud o hyd ond rwyf yn hyderus ein bod ni, ynghyd â'r Prif Gwnstabl Kelly a'i thîm yn Heddlu Gwent, yn sbarduno newid diwylliannol sy'n rhoi lleisiau ein cymunedau wrth wraidd ein prosesau, ein polisïau a'n penderfyniadau.
Mae’n rhaid i ni gofio ein bod yn well gyda'n gilydd, ac y byddwn, drwy ddysgu gwersi'r gorffennol, yn creu gwell dyfodol.