Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn croesawu cadarnhad o gyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi croesawu'r cadarnhad gan Lywodraeth y DU y bydd y costau y mae heddluoedd wedi'u hysgwyddo i brynu cyfarpar diogelu personol o safon feddygol i reoli argyfwng Covid-19 yn cael eu had-dalu'n llawn ym mis Tachwedd.
Dywedodd Jeff Cuthbert: "Rwy'n falch y bydd Llywodraeth y DU yn ad-dalu'r costau sylweddol y mae heddluoedd wedi’u hysgwyddo i baratoi heddweision yn briodol yn ystod argyfwng Covid-19.
"Mae bod â’r Cyfarpar Diogelu Personol cywir ar gael wedi bod yn hanfodol er mwyn sicrhau lles heddweision, staff a'r cyhoedd.
"Mae'n galonogol nad fydd yn rhaid i ni ddod o hyd i'r arian ychwanegol ar gyfer y cyfarpar hwn o'n cyllideb sydd eisoes dan bwysau."