Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cefnogi gwirfoddolwyr bad achub
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi rhoi £1,500 i gefnogi Cymdeithas Achub Ardal Hafren (SARA).
Mae SARA yn gweithredu o orsaf dân Malpas a gwirfoddolwyr yw’r criw. Mae'n cynorthwyo Heddlu Gwent i chwilio am unigolion coll ac yn helpu gyda digwyddiadau eraill ledled Gwent ac ar hyd Aber Afon Hafren.
Dywedodd Jeff Cuthbert: “Mae SARA yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i Heddlu Gwent a'r gwasanaethau brys.
“Mae'r criw gwirfoddol yn gwneud gwaith pwysig ac rwy'n falch iawn o'u cefnogi nhw a'r gwaith gwych maen nhw’n ei wneud i gadw ein dyfroedd a'n trigolion yn ddiogel."
Mae SARA yn elusen gofrestredig ac mae'n dibynnu ar gefnogaeth gan y cyhoedd i brynu a chynnal offer a hyfforddi aelodau'r criw. Mae galw rheolaidd ar wirfoddolwyr i gefnogi gwylwyr y glannau, yr heddlu a'r gwasanaethau brys, ac maen nhw’n ymateb i fwy na 100 o ddigwyddiadau'r flwyddyn.
Dywedodd Richard Dainty o SARA: “Rydym yn ddiolchgar i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu am y rhodd hon.
“Mae ein gorsaf bad achub yn costio tua £20,000 y flwyddyn i’w gweithredu a bydd y rhodd hon yn mynd tuag at gynnal ein cychod, cerbydau ac offer.”