Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn annog pobl i osgoi protestiadau torfol
Mae Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi annog y cyhoedd i osgoi protestiadau torfol i leihau'r risg o ledaenu Covid-19 yng nghymunedau Gwent.
Dywedodd: "Rwy'n deall y dicter a'r digalondid y mae pob yn ei deimlo yn dilyn marwolaeth George Floyd yn yr UDA, ac rwy'n cefnogi’r ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys.
"Er hyn, mae'n rhaid i mi annog pobl sydd eisiau protestio i osgoi mynd i gynulliadau cyhoeddus mawr.
"Rydym yn dal yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus difrifol ac mae pobl yn dal i farw o Covid-19 bob dydd.
"Mae cynulliadau torfol o unrhyw fath yn cynyddu'r risg o ledaenu'r feirws yn ein cymunedau ac yn rhoi bywydau mewn perygl.
" Yn ffodus, fe wnaeth protest yng Nghastell Caerffili'r penwythnos diwethaf ddigwydd yn heddychlon, heb unrhyw broblemau, ac fe wnaeth y mwyafrif ddilyn y canllawiau cadw pellter cymdeithasol.
"Er hyn, rwyf yn dal i bryderu am y peryglon i iechyd y cyhoedd a gan fod llawer mwy o brotestiadau wedi'u cynllunio ledled Gwent, byddwn yn annog yn gryf bod unrhyw un sy'n bwriadu bod yn bresennol i ailystyried a meddwl am ffyrdd eraill o brotestio.
"Gwaith yr heddlu yn unrhyw le yn y byd yw gwarchod a gwasanaethu eu cymunedau, ac mae'r dicter y mae pobl yn ei deimlo yn ddealladwy.
"Y tro hwn, yn yr UDA, bu methiant difrifol a rhaid dwyn y rhai hynny sy'n gyfrifol i gyfrif.
"Fy swyddogaeth i yw sicrhau bod unrhyw un sy'n delio â'r heddlu yma yng Ngwent yn cael ei drin yn gyfartal, yn deg a gyda pharch.
"Mae gweithio gyda'n partneriaid a'n cymunedau allweddol yn hanfodol er mwyn deall yn well y problemau sy'n wynebu llawer o drigolion du a lleiafrifoedd ethnig, ac i ymgysylltu â nhw i helpu i fynd i'r afael ag unrhyw brofiadau negyddol sydd ganddyn nhw.
"Rwy'n falch ein bod yn parhau i wneud cynnydd sylweddol o ran cynyddu cydlyniant cymunedol, a sicrhau bod ein heddlu a'n staff yn gynrychioliadol o'r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu. Mae hyn yn parhau i fod yn rhan bwysig iawn o fy ngwaith.
"Ni fydd casineb o unrhyw fath yn cael ei oddef yma yng Ngwent. Os ydych chi wedi dioddef casineb oherwydd eich hil, crefydd, rhywioldeb neu unrhyw reswm arall, rhowch wybod i ni amdano."