Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n gofyn yn daer ar drigolion Caerffili i fod yn wyliadwrus
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn gofyn yn daer ar drigolion yng Nghaerffili i fod yn wyliadwrus ar ôl i'r fwrdeistref gael ei rhoi dan gyfyngiadau symud lleol oherwydd cynnydd mewn achosion o Covid-19.
Dywedodd: "Rwyf yn gwybod y bydd hyn yn ergyd i drigolion ond mae cyfyngiadau symud pellach yn angenrheidiol i leihau lledaeniad y feirws yn lleol ac i helpu i gadw gwasanaethau fel ysgolion ar agor.
"Yn drist, mae'n ymddangos bod llawer o bobl wedi anwybyddu'r cyngor clir iawn ar gadw pellter cymdeithasol ac mae'r cyfyngiadau symud lleol hyn yn ein hatgoffa nad yw'r feirws hwn wedi ein gadael ni.
"Hoffwn annog pob un o'r trigolion i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a phartneriaid y sector cyhoeddus yn ystod yr wythnosau i ddod.
"Mae busnesau lleol yn dal ar agor ar hyn o bryd, a gall ffrindiau a theulu gwrdd yn yr awyr agored. Nid ydym wedi dychwelyd i'r cyfyngiadau symud llawn a roddwyd ar waith yn gynharach eleni ac, os bydd pob un ohonom yn chwarae ein rhan, gobeithio y gallwn osgoi cyfyngiadau pellach a helpu i arafu lledaeniad y feirws."