Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n canmol Heddlu Gwent am blismona cam-drin domestig yn ystod y pandemig
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi canmol ymdrechion Heddlu Gwent i blismona cam-drin domestig a chefnogi dioddefwyr yn ystod y pandemig.
Daw ei sylwadau wrth i adroddiad gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi gydnabod bod lluoedd heddlu'r DU wedi cymryd mesurau rhagweithiol i blismona achosion o gam-drin domestig dan amgylchiadau anodd oherwydd cyfyngiadau symud.
Mae'r Comisiynydd wedi cymeradwyo'r gwaith da a wnaed gan Heddlu Gwent i gadw pobl yn ddiogel, ond mae'n rhybuddio bod llawer o achosion o gam-drin domestig yn digwydd heb gael eu riportio.
Dywedodd: “Mae plismona mewn pandemig yn eithriadol o galed a rhaid i mi ganmol ymdrechion Heddlu Gwent i amddiffyn a chefnogi dioddefwyr cam-drin domestig yn ystod y cyfnod hwn.
"Serch hynny, rydym yn gwybod y bydd llawer mwy o ddioddefwyr wedi bod yn rhy ofnus i riportio'r mater.
"Rwy'n gwybod ei bod yn anodd ond os ydych chi wedi dioddef y troseddau hyn rwyf am eich sicrhau bod cymorth ar gael a gofynnaf yn daer arnoch i’w riportio. Os nad ydych am siarad â'r heddlu, gall ein hasiantaethau partner roi cymorth i chi, a'ch cadw yn ddiogel.”
Dywedodd Prif Gwnstabl Pam Kelly: "Roedd sicrhau trwy gydol y pandemig ein bod yn cymryd camau i wirio sut oedd unigolion a oedd wedi cysylltu â ni yn y gorffennol ar ôl profi cam-drin domestig, neu i gynnig ffyrdd newydd i gysylltu â ni, yn hollbwysig. Roedd posibilrwydd y byddai'r cyfyngiadau symud yn cynyddu'r perygl o niwed i unigolion ac roeddem am sicrhau eu bod yn gwybod bod cymorth ar gael, boed y cymorth hwnnw trwy Heddlu Gwent neu asiantaethau partner a allai gynnig cymorth ymarferol a chyngor.
"Roeddem am sicrhau ein bod ar gael ac yn gwrando, trwy weithio gyda fferyllfeydd i gefnogi cynllun 'Gofyn i Ani' a galluogi pobl i ofyn am gymorth, neu drwy gael ein swyddogion i wirio sut oedd pobl yn rhagweithiol.
"Byddwn yn parhau i weithio i helpu unigolion a theuluoedd i fyw bywyd heb ofn."
Gall dioddefwyr riportio digwyddiadau i Heddlu Gwent trwy ffonio 101, neu 999 mewn argyfwng.
Mae cymorth ar gael gan wasanaethau cymorth sy'n ymdrin yn benodol â cham-drin a thrais rhywiol hefyd:
BAWSO: Darparu gwasanaethau cymorth arbenigol i drigolion du a lleiafrifoedd ethnig.
Gwefan: https://bawso.org.uk/contact/
Ffôn: 08007318147
Connect Gwent: Cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth i ddioddefwyr. Nid oes rhaid i chi fod wedi riportio'r drosedd hon i'r heddlu i gael mynediad at y gwasanaethau hyn.
Gwefan: www.umbrellacymru.co.uk/connect-gwent
Ffôn: 0300 123 2133
Cymorth i Fenywod Cyfannol: Darparu gwasanaethau cymorth cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Gwefan: https://cyfannol.org.uk
Ffôn: 01495 742052
Byw Heb Ofn: Llinell gymorth am ddim Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i ddioddefwyr cam-drin domestig neu drais rhywiol.
Gwefan: https://gov.wales/live-fear-free
Ffôn: 0808 8010 800.
Llwybrau Newydd: Darparu gwasanaethau cymorth i oedolion a phlant sydd wedi dioddef treisio a cham-drin rhywiol.
Gwefan: www.newpathways.org.uk
Ffôn: 01685 379 310