Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n canmol gweithwyr y gwasanaethau brys
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi nodi Diwrnod Cenedlaethol y Gwasanaethau Brys trwy ganmol holl weithwyr a gwirfoddolwyr y gwasanaethau brys ledled Gwent.
Dywedodd Jeff Cuthbert: “Mae Diwrnod y Gwasanaethau Brys yn gyfle i gydnabod a diolch i'n gweithwyr a gwirfoddolwyr yn y gwasanaethau brys.
"Mae eu gwaith caled a'u hymroddiad wedi bod yn fwy amlwg nag erioed yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
"Eisoes yn 2020 mae ein gwasanaethau brys yng Ngwent wedi ymdrin â llifogydd eithafol, Covid-19 a phroblemau a achoswyd gan fisoedd lawer o gyfyngiadau symud, a'r bygythiad presennol gan bobl yn casglu at ei gilydd a rêfs anghyfreithlon.
"Maen nhw wedi cael eu rhoi ar brawf mewn ffordd ddigynsail ac maen nhw wedi derbyn yr heriau hyn yn gampus.
"Rhaid i ni gofio bod gweithwyr y gwasanaethau brys yn wynebu peryglon go iawn ar y rheng flaen wrth iddynt weithio i'n cadw ni'n ddiogel ac iach.
"Dim ond ychydig fisoedd yn ôl yma yng Ngwent, cafodd un o'n swyddogion ei drywanu yn ystod anghydfod ac mae hyn yn ein hatgoffa ni eu bod nhw'n rhoi eu bywydau mewn perygl go iawn.
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch eto i'n swyddogion heddlu, gweithwyr y gwasanaethau brys ac, wrth gwrs, eu teuluoedd, am bopeth maen nhw'n ei wneud i'n cadw ni'n ddiogel.”