Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn nodi Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi talu teyrnged i'r holl swyddogion heddlu sydd wedi cael eu lladd neu wedi colli eu bywydau ar ddyletswydd, yn rhan o Ddiwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu ddydd Sul 25 Medi.
Sefydlwyd Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu ar ôl i swyddog heddlu gyda Heddlu Caint, Jon Odell, gael ei ladd yn 2000.
Mae'r digwyddiad hefyd yn gyfle i gydnabod yr ymroddiad a'r dewrder a ddangosir gan bob swyddog heddlu ledled y DU.
Meddai Jeff Cuthbert: “Mae Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu'n gyfle i ni gofio'r swyddogion hynny sydd wedi colli eu bywydau ar ddyletswydd, ond hefyd i ddiolch i swyddogion heddlu sy'n gwasanaethu am y gwaith caled, yr ymroddiad a'r dewrder maen nhw'n ei ddangos bob dydd wrth amddiffyn a gwasanaethu ein cymunedau.
"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae nifer yr ymosodiadau ar swyddogion heddlu wedi codi. Mae'r rhain yn bobl sydd wedi ymroi i'n cadw ni'n ddiogel ac yn iach, ac maen nhw'n haeddu cael cyflawni eu dyletswydd heb gael pobl yn eu bygwth, yn ymosod arnynt ac yn eu sarhau. Mae hyn yn warthus ac ni fyddwn yn ei oddef yma yng Ngwent.
“Felly hoffwn ddiolch i'r holl swyddogion heddlu, rhai'r presennol a'r gorffennol, am eu gwasanaeth ac am bopeth maen nhw'n ei wneud i'n cadw ni'n ddiogel.”