Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn helpu i ariannu parseli bwyd
Mae arian gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd, wedi cael ei ddefnyddio i helpu i ddarparu 250 o barseli bwyd i deuluoedd ledled Blaenau Gwent.
Mae'r parseli'n cynnwys amrywiaeth o eitemau gan gynnwys cig ffres, llysiau a hanfodion y Nadolig i wneud cinio Nadolig sylweddol. Cafodd y bwyd ei roi mewn bagiau, a oedd yn rhodd gan fusnesau lleol ac yn cynnwys taflenni gwybodaeth yn cyfeirio preswylwyr at Byw Heb Ofn, llinell gymorth sydd ar agor ddydd a nos i roi cymorth a chefnogaeth i unrhyw un sy'n profi camdriniaeth.
Helpodd sefydliadau lleol, gan gynnwys Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent, Cymorth i Fenywod Cyfannol, Pobl a Dechrau'n Deg i ddosbarthu'r parseli i deuluoedd ym Mlaenau Gwent.
Prynwyd y bwyd yn y parseli o siopau a busnesau lleol gydag arian o amryw o ffynonellau, gan gynnwys rhodd y Comisiynydd. Cafodd y cynllun gefnogaeth gan ysgolion lleol hefyd a anogodd disgyblion i roi rhoddion o fwyd trwy gydol tymor yr hydref.
Gwirfoddolwyr o Dŷ Cymunedol Bryn Farm a Chlwb Rotari Brynmawr oedd yn gyfrifol am gyd-gysylltu’r gwaith o bacio'r parseli.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd:
"Mae'r Nadolig yn amser i feddwl am bobl eraill. Mae gen i barch enfawr at y gwirfoddolwyr yn Nhŷ Cymunedol Bryn Farm, sy'n gweithio'n ddiflino i helpu trigolion ym Mrynmawr a'r ardaloedd o gwmpas. Mae'r parseli bwyd Nadolig yn helpu i wneud gwahaniaeth i'r rheini sydd angen help llaw ar adeg o'r flwyddyn sy'n gallu bod yn anodd i rai.
"Hoffwn ddiolch i'r holl wirfoddolwyr yn Nhŷ Cymuned Bryn Farm, a Chlwb Rotari Brynmawr, a Chyngor Tref a Chymuned Brynmawr am eu hymroddiad i helpu eraill."
Llinell gymorth sy'n agored ddydd a nos yw Byw Heb Ofn ar gyfer unrhyw un sy'n profi cam-drin domestig, ymddygiad sy'n gorfodi a rheoli, neu gam-drin rhywiol yng Nghymru.
Ffoniwch 0808 80 10 800, croesawir galwadau yn Gymraeg ac mae'r llinell gymorth ar agor ddydd a nos, saith diwrnod yr wythnos, neu ewch i: https://www.gov.wales/live-fear-free/contact-live-fear-free
Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.