Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cymeradwyo ymrwymiad Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â throsedd mewn cymunedau
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent Jane Mudd wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â throsedd mewn cymunedau a darparu system cyfiawnder troseddol sy'n canolbwyntio ar ddioddefwyr.
Cafodd ymrwymiadau'r llywodraeth eu hamlinellu yn ei Bil Trosedd a Phlismona a'i Bil Dioddefwyr, y Llysoedd ac Amddiffyn y Cyhoedd, a gyhoeddwyd yn Araith y Brenin.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd: “Rwyf yn falch iawn i weld ymrwymiad Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r problemau rwyf yn gwybod, o sgyrsiau gyda phobl ar stepen y drws ac mewn cymunedau, sydd o'r pwys mwyaf i'n trigolion.
“Mae'r llywodraeth yn cymryd camau i gynyddu pwerau'r heddlu i wasgu'n dynn ar broblemau fel trosedd difrifol, ymddygiad gwrthgymdeithasol, a thrais yn erbyn menywod a merched. Mae hefyd yn cryfhau cyfreithiau i amddiffyn ein plant ac mae wedi ymroi i ddarparu system cyfiawnder troseddol sy'n rhoi anghenion dioddefwyr yn gyntaf ac yn flaenaf.
“Rwyf hefyd yn arbennig o falch i weld ymrwymiad i amddiffyn gweithwyr mewn siopau ac i fynd i'r afael â throseddau manwerthu, dau o'r meysydd y tynnais sylw atynt yn fy maniffesto cyn cael fy ethol. Mae'r cynnydd mewn trais a sarhad tuag at weithwyr mewn siopau yn y blynyddoedd diwethaf yn syfrdanol, gyda dioddefwyr yn aml yn teimlo'n rhy ofidus i ddychwelyd i'r gwaith ac ennill bywoliaeth, ac mae angen taer am y mesurau yma.
“Bydd yr ymrwymiadau a gyhoeddwyd yn Araith y Brenin yn helpu i wneud pob un o'n cymunedau'n llefydd mwy diogel i fyw a gweithio ynddynt, ac i ymweld â nhw. Rwyf yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth newydd y DU, a'r llywodraeth yma yng Nghymru, i gyflawni'r ymrwymiadau yma i'n trigolion."