Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn croesawu’r dyfarniad cyflog i swyddogion heddlu

31ain Gorffennaf 2024

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi croesawu'r cyhoeddiad o ddyfarniad cyflog 4.75 y cant i swyddogion heddlu.

Mae'r Swyddfa Gartref wedi cadarnhau y bydd swyddogion heddlu'n derbyn y codiad cyflog o 1 Medi, ac y bydd yn darparu £175 miliwn ychwanegol i heddluoedd i roi cymorth iddynt gyda chostau ychwanegol.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd: “Mae plismona'n un o'r swyddi mwyaf heriol sydd yna, ac mae swyddogion heddlu'n rhoi eu hunain mewn perygl yn rheolaidd er mwyn ein cadw ni'n ddiogel. Maent yn delio gyda sefyllfaoedd na fydd y rhan fwyaf ohonom ni byth yn gorfod eu profi, a rhaid i'w cyflog adlewyrchu hyn.

“Rwyf yn croesawu'r codiad cyflog yma i swyddogion heddlu ac rwyf hefyd yn falch y bydd eu gwyliau blynyddol yn codi i isafswm o 25 diwrnod y flwyddyn o'r flwyddyn nesaf. Bydd y gwelliannau hyn i gyflogau ac amodau yn helpu i roi sylw i broblemau recriwtio ac yn golygu y bydd heddluoedd yn fwy tebygol o gadw swyddogion profiadol. Mae'r ddau beth yma'n hanfodol os ydym eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn yn ein cymunedau.”