Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn croesawu myfyrwyr newydd

5ed Chwefror 2025

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi bod i weld swyddogion fyfyrwyr diweddaraf Heddlu Gwent i estyn croeso iddyn nhw.

Cyfarfu comisiynydd Mudd â 24 o recriwtiaid newydd wrth iddyn nhw ddechrau eu hyfforddiant yng Nghwmbrân. Mae'r recriwtiaid yn cynnwys cymysgedd o swyddogion arferol a ditectifs llwybr carlam.

Pan fyddan nhw wedi cwblhau eu hyfforddiant byddant yn cael eu hanfon i gefnogi timau Heddlu Gwent ledled y rhanbarth.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Roeddwn yn falch iawn i gwrdd â'r recriwtiaid newydd wrth iddyn nhw ddechrau eu hyfforddiant gyda Heddlu Gwent, ac i ddysgu ychydig mwy amdanyn nhw, a'u rhesymau dros fod eisiau ymuno â'r heddlu.

"Trwy ddilyn gyrfa fel swyddog heddlu maen nhw'n dangos ymrwymiad go iawn i wasanaeth cyhoeddus ac ymroddiad i gymunedau Gwent. Mae hi'n swydd na ddylid ei chymryd yn ysgafn, a bydd swyddogion yn aml yn wynebu digwyddiadau peryglus a gofidus yn ddyddiol.

"Mae gan y recriwtiaid yma yrfa heriol, ond boddhaus iawn, o'u blaenau ac rwyf yn edrych ymlaen at weld eu datblygiad.”