Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn condemnio cynnydd mewn dwyn o siopau

26ain Gorffennaf 2024

Mae dwyn o siopau yn y DU ar ei lefel uchaf ers 20 mlynedd yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae'r ffigyrau'n dangos yn ystod y cyfnod o fis Mawrth 2023 i fis Mawrth 2024 bod 443,995 o ddigwyddiadau o ddwyn o siopau wedi cael eu cofnodi yng Nghymru a Lloegr.

Mae hyn yn gynnydd o 30% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol a’r uchaf ers i gofnodion cymharol ddechrau yn 2003.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd: “Mae pobl yn gweld dwyn o siopau fel trosedd heb ddioddefwr ond mae hynny'n gwbl anghywir.

“Mae'n peryglu bywoliaeth busnesau llai ac annibynnol, gan niweidio dyfodol ein strydoedd mawr. Yr hyn sy'n peri mwy o ofid yw'r cynnydd mewn trais a sarhad tuag at weithwyr siopau yr ydym yn ei weld ar hyn o bryd. Mae hyn yn aml yn achosi i ddioddefwyr deimlo'n rhy ofidus i ddychwelyd i'r gwaith, ennill bywoliaeth a darparu ar gyfer eu teuluoedd.

“Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yn rhoi mesurau ar waith i amddiffyn ein gweithwyr siopau a mynd i'r afael â dwyn o siopau. Roedd hwn yn un o'r prif ymrwymiadau yn fy maniffesto cyn yr etholiad hefyd ac rwyf yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth newydd y DU a'r Llywodraeth yma yng Nghymru i gyflawni'r ymrwymiadau yma i'n preswylwyr.”