Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cefnogi ymgyrch Parch at Weithwyr Siopau
Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent yn cefnogi ymgyrch Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol (USDAW) - 'Parch at Weithwyr Siopau'.
Ymunodd y tîm ag aelodau'r undeb yn Sainsburys yng Nghwmbrân i siarad â chwsmeriaid a staff y siop am y problemau sy'n eu hwynebu nhw.
Roedd mynd i'r afael â throseddau manwerthu'n un o'r addewidion maniffesto a wnaed gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd yn ystod ei hymgyrch etholiadol.
Dywedodd: "Mae'r cynnydd mewn troseddau manwerthu'n achos pryder mawr. Yn ystod fy ymgyrch etholiadol addewais y byddai hyn yn flaenoriaeth i mi yn ystod fy nghyfnod yn y swydd, a bydd yn rhan o fy Nghynllun Heddlu a Throsedd sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
"Mae USDAW yn gwneud gwaith pwysig yn cefnogi gweithwyr siopau a staff manwerthu yn ein cymunedau ac rwyf yn falch ein bod ni wedi gallu cefnogi hyn.
“Mae llywodraeth y DU wedi ymroi i ddarparu cyllid i'r heddlu a manwerthwyr gydweithio i fynd i'r afael â'r troseddau yma, ac rwyf yn edrych ymlaen at weld sut bydd hyn yn gweithio'n fwy manwl yn ystod y misoedd nesaf."