Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cefnogi rheolau llymach ar gyfer gwerthu cyllyll ar-lein

20fed Chwefror 2025

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi cefnogi mesurau newydd Llywodraeth San Steffan i wasgu'n dynn ar werthu cyllyll ac arfau ar-lein i blant a phobl ifanc.

Bydd gofyn i werthwyr fabwysiadu gwiriadau adnabod mwy cadarn ar gyfer prynwyr, a bydd dedfrydau o garchar am werthu i bobl dan 18 oed yn cynyddu o chwe mis i ddwy flynedd.  Bydd gofyn iddyn nhw riportio unrhyw werthiannau amheus wrth yr heddlu hefyd.

Bydd trosedd newydd o "feddiant gyda bwriad treisgar" yn cael ei chyflwyno, a bydd uned blismona bwrpasol yn cael ei chreu i fonitro arfau sy'n cael eu gwerthu'n anghyfreithiol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gyda'i gilydd mae'r mesurau'n cael eu hadnabod fel Cyfraith Ronan, er cof am Ronan Kanda a gafodd ei ladd, yn drasig, yn 2022. Prynodd y llofrudd, a oedd yn 16 oed ar y pryd, yr arf ar-lein yn defnyddio dogfennau adnabod ei fam i fynd trwy'r gwiriadau diogelwch.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Ers llawer gormod o amser mae'r bylchau hyn yn y gyfraith wedi galluogi plant a phobl ifanc i brynu cyllyll ac arfau yn gymharol hawdd. Bydd y mesurau newydd yma'n sicrhau bod gwerthwyr cyfreithlon yn rhoi gwiriadau diogelwch ac adnabod mwy cadarn mewn lle, ac yn gwasgu'n dynn ar werthwyr anghyfreithlon ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni i annog plant a phobl ifanc i beidio â chario cyllyll neu arfau o unrhyw fath ac mae hwn yn gam arall i'r cyfeiriad cywir. Mae'n bwysig ein bod yn eu dysgu nhw am beryglon a chanlyniadau cario cyllyll hefyd. Rwyf yn falch fy mod yn ariannu'r elusen Fearless sy'n ymweld ag ysgolion ledled Gwent ac yn siarad â phobl ifanc am y peryglon a'r hyn y gallai cario cyllell ei olygu iddyn nhw, eu ffrindiau a'u teuluoedd.

“Os ydych chi'n gwybod bod rhywun yn cario cyllell, riportiwch y mater. Gallai un alwad ffôn neu neges achub bywyd.”

Gallwch riportio wrth Heddlu Gwent drwy ffonio 101, neu drwy anfon neges uniongyrchol ar Facebook ac Instagram.

Gallwch riportio wrth Crimestoppers / Fearless hefyd, yn ddienw, ar 0800 555 111 neu ar y wefan https://crimestoppers-uk.org

Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.