Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cefnogi Gwobrau Ieuenctid EYST Cymru

20fed Rhagfyr 2024

Ymunodd Jane Mudd, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, â phartneriaid a phlant a phobl ifanc ar gyfer Gwobrau Ieuenctid blynyddol EYST Cymru.

Mae EYST, sef y Tîm Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid, yn cefnogi pobl a chymunedau lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru. Mae ei wobrau ieuenctid, a gynhelir yng Nghasnewydd a Thorfaen, yn dathlu doniau, cydnerthedd ac ysbryd y bobl ifanc y mae'n gweithio gyda nhw.

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cefnogi EYST drwy ei chronfa gymunedol. Mae'r cyllid yn galluogi'r sefydliad i gynnal clwb ieuenctid wythnosol i blant a phobl ifanc yn ardal Maendy yng Nghasnewydd, gan roi lle diogel iddynt fynd gyda'r nos. Bydd gweithwyr ieuenctid hefyd yn gweithio gyda'r bobl ifanc ar bethau fel iechyd corfforol a meddyliol, ac yn eu cefnogi gyda gwaith ysgol.

Dywedodd y Comisiynydd Jane Mudd: "Roeddwn i’n falch iawn o ymuno â'n partneriaid yn EYST i glywed straeon ysbrydoledig am gyflawniadau rhai plant a phobl ifanc anhygoel, ac i gyflwyno gwobrau i gydnabod y cyflawniadau hyn.

"Mae EYST yn gweithio yn ein cymunedau ledled Gwent i gefnogi plant a phobl ifanc o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, gan gynnig lle diogel ac wyneb diogel iddyn nhw allu troi atyn nhw am help, cefnogaeth, ac i gael hwyl gyda'u ffrindiau.

"Llongyfarchiadau i bawb a dderbyniodd wobr, a'r holl weithwyr ieuenctid am y cyfraniad cadarnhaol y maen nhw’n ei wneud i'n cymunedau."