Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn canmol gweithwyr gwasanaethau brys Gwent
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd, wedi canmol gweithwyr a gwirfoddolwr gwasanaethau brys Gwent ar Ddiwrnod Cenedlaethol y Gwasanaethau Brys.
Mae'r diwrnod cenedlaethol ar 9 Medi bob blwyddyn yn anrhydeddu'r bron i ddwy filiwn o bobl sy'n gweithio ac yn gwirfoddoli ledled y GIG, yr heddlu, y gwasanaeth tân, y gwasanaeth ambiwlans a'r gwasanaethau achub.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Heddiw rydym yn diolch i weithwyr a gwirfoddolwyr y gwasanaethau brys ledled Gwent sydd wedi ymroi i achub bywydau a chadw pobl yn ddiogel.
"Mae ein gweithwyr gwasanaethau brys yn bobl go iawn, sy'n gwneud eu gwaith oherwydd eu bod eisiau gwneud eu gorau i'w cymunedau. Maen nhw'n rhoi eu hunain mewn perygl yn rheolaidd, boed hynny'n gweithio i'r heddlu, y gwasanaeth tân, y gwasanaeth iechyd neu'r gwasanaeth chwilio ac achub. Bob dydd maen nhw'n wynebu sefyllfaoedd na fydd y rhan fwyaf ohonom ni byth yn gorfod eu profi, a rhaid i ni beidio byth ag anghofio hyn.
"Felly hoffwn ddiolch i chi, holl weithwyr y gwasanaethau brys yng Ngwent, ar fy rhan i ond hefyd ar ran pobl Gwent rwy'n eu cynrychioli, am bopeth rydych yn ei wneud bob dydd i'n cadw ni a'n cymunedau'n ddiogel."