Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn buddsoddi mewn gaeaf mwy diogel

19eg Rhagfyr 2025

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi buddsoddi £50,000 ym Mhartneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwent i gynyddu patrolau diogelwch, ymgysylltu â busnesau a darparu gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc y gaeaf yma.

Mae'r cyllid yn cefnogi gwaith Heddlu Gwent, sydd wedi cynyddu patrolau ledled y rhanbarth i ymdrin â throsedd tymhorol yng nghanol trefi ac mewn parciau manwerthu.

Mae'n rhan o ymgyrch Gaeaf o Weithredu'r Swyddfa Gartref ac mae'n adeiladu ar yr ymgyrch Strydoedd Saffach yr Haf, a arweiniodd at fwy na 16,000 arést a dirwyon ledled Prydain am droseddau fel dwyn o siopau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae hwn yn gyfnod prysur iawn yng nghanol ein trefi ac yn ein parciau manwerthu, ac mae'n hollbwysig ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd i amddiffyn busnesau a'u staff, gan gadw ein preswylwyr yn ddiogel ar yr un pryd.

"Trwy weithio gyda'i gilydd yn agosach i ganolbwyntio ar ardaloedd sy'n profi trafferthion, gall yr heddlu, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill anfon neges glir na fydd yr ymddygiad yma'n cael ei oddef yn ein cymunedau a gwneud yn siŵr bod ein preswylwyr yn gallu mwynhau Nadolig a blwyddyn newydd mwy diogel.

Yn rhan o'r ymgyrch, mae Heddlu Gwent yn annog preswylwyr i gofrestru ar gyfer Materion Cymdogaeth, platfform newydd sy'n galluogi pobl i dderbyn newyddion am faterion yn eu hardal nhw a rhannu gwybodaeth gyda'r heddlu.

Dywedodd Arweinydd Plismona Cymdogaeth Heddlu Gwent, Prif Uwch-arolygydd Jason White: “Mae’r gwasanaeth negeseuon cymunedol newydd - Materion Cymdogaeth - a gyflwynwyd yn ddiweddar yn helpu i wella ein gwybodaeth am broblemau lleol a sicrhau bod ein timau wedi’u lleoli yn y llefydd mae preswylwyr ein hangen ni fwyaf, ac mae cyflawni rhaglen atal trosedd yn helpu preswylwyr a phobl busnes i amddiffyn eu hunain rhag troseddau caffael fel byrgleriaeth a dwyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am waith Heddlu Gwent dros gyfnod yr ŵyl, cadwch lygad ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am #YmgyrchPegwnYDe neu ewch i: www.materioncymdogaethgwent.co.uk