Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn arwain gorymdaith Pride

13eg Medi 2024

Arweiniodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd, drigolion trwy strydoedd Casnewydd mewn gorymdaith i ddathlu Pride in the Port eleni.

Daeth miloedd o bobl at ei gilydd yng nghanol dinas Casnewydd ar gyfer y digwyddiad sy'n dathlu amrywiaeth, cynhwysiant a chymuned LGBTQIA+ Gwent.  

Mae'r Comisiynydd wedi cefnogi digwyddiadau Pride yn Y Fenni, Caerffili a Thorfaen hefyd.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Rwyf yn eithriadol o falch i gefnogi Pride in the Port. Roedd yn ddigwyddiad gwych, ac roedd mor fendigedig gweld cymaint o bobl yn dod o bob cefndir, a llawer o wahanol sefydliadau, i ddathlu gyda'i gilydd.

"Mae Pride yn ymgorffori’r gwerthoedd o dderbyn pobl, goddefgarwch a pharch. Mae'r rhain yn hollbwysig er mwyn i gymdeithas weithio'n dda ac maent yn arbennig o bwysig mewn ardal fel Gwent ble mae gennym ni boblogaeth amrywiol sy'n tyfu. 

"Rwyf eisiau i Went fod yn rhywle y gall pawb fyw eu bywydau fel nhw eu hunain, yn rhydd rhag ofn a niwed, a dyna beth welsom ni ar y strydoedd yn Pride in the Port. Hoffwn ddiolch i bawb a oedd ynghlwm â threfnu'r digwyddiad, a phawb a gymrodd ran ac a ddaeth i ddathlu gyda'i gilydd."