Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn ariannu prosiectau i amddiffyn plant rhag trosedd difrifol
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, yn ariannu dau brosiect sy'n rhoi cymorth i bobl ifanc sydd mewn perygl o ddechrau ymwneud â throsedd difrifol.
Mae Ymddiriedolaeth St Giles yn darparu ymyrraeth argyfwng i blant a phobl ifanc sydd wedi cael eu nodi i fod mewn perygl o ddechrau ymwneud â throsedd difrifol a threfnedig, neu sydd yn ymwneud â throsedd difrifol a threfnedig.
Bydd yr ymddiriedolaeth yn helpu Crimestoppers i ddarparu ei raglen Fearless mewn ysgolion hefyd ac yn darparu cymorth wedi'i dargedu mewn ardaloedd sydd â phroblem.
Ers mis Ionawr 2019, mae tîm Fearless wedi darparu sesiynau ar droseddau cyllyll, cam-fanteisio ar blant a symud cyffuriau i bron i 14,000 o bobl ifanc.
Caiff sesiynau eu cynllunio i roi'r addysg a'r hyder i bobl ifanc adnabod y problemau hyn ymysg eu grwpiau o ffrindiau a chymunedau, a hefyd i roi'r wybodaeth a'r hyder iddyn nhw eu riportio.
Maen nhw wedi darparu hyfforddiant i dros 230 o weithwyr proffesiynol, rhieni a gofalwyr ar sut i adnabod arwyddion trosedd trefnedig hefyd.
Meddai Jeff Cuthbert: “Mae trosedd difrifol a threfnedig yn effeithio ar bobl ifanc agored i niwed ledled Cymru. Mae'r math hwn o drosedd yn gymhleth, ac yn gudd yn aml, ac mae angen ymyrraeth gynnar effeithiol yn ein hysgolion a'n cymunedau er mwyn mynd i'r afael ag ef.
“Mae adnabod a chefnogi'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf yn hollbwysig. Mae St Giles Trust a Crimestoppers wedi bod yn gwneud gwaith arloesol yng Ngwent yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae'n bleser gen i roi arian iddyn nhw er mwyn i'r gwaith hwn barhau.”
Gallwch riportio trosedd yn ddienw ar wefan Fearless.