Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd i roi’r gorau i'w swydd am y tro
*Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert, yn ôl wrth ei waith ers 26 Chwefror 2024*
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert, wedi penderfynu rhoi'r gorau i'w swydd dros dro er mwyn gwella ar ôl cyfnod o iechyd gwael.
Bydd Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Eleri Thomas, yn cymryd yr awenau fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dros Dro nes bydd Mr Cuthbert yn gallu dychwelyd.
Mae Eleri wedi gwasanaethu fel Dirprwy Gomisiynydd ers 2016 ac ar hyn o bryd mae hi'n arwain Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar feysydd fel plant a phobl ifanc, cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod a merched.
Meddai Eleri Thomas: "Trefniant dros dro yw hwn i alluogi'r Comisiynydd i wella ar ôl cyfnod o iechyd gwael a dychwelyd i weithio cyn gynted ag sy'n bosibl.
"Yn ystod y cyfnod yma byddaf yn rheoli’r swyddogaethau statudol a roddwyd yng ngofal y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn ofalus, ac yn cefnogi'r Prif Weithredwr a staff gyda gwaith ehangach y swyddfa."
Cadarnhawyd y penderfyniad mewn cyfarfod arbennig o Banel Heddlu a Throsedd Gwent dydd Gwener 12 Ionawr 2024.