Comisiynydd yn ymweld â digwyddiadau cymunedol ledled Gwent
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jane Mudd, wedi bod yn ymweld â digwyddiadau cymunedol ledled Gwent i siarad â thrigolion am eu blaenoriaethau ar gyfer plismona.
Mae’r Comisiynydd wedi ymweld â digwyddiadau ymgysylltu yng Nghasnewydd, wedi’u trefnu gan y Tîm Cymorth Ieuenctid Lleiafrifoedd Ethnig (EYST), gŵyl Cymdeithas Gymunedol Yemini Casnewydd ym Mhilgwenlli, a diwrnod hwyl i’r teulu Cyngor Sir Blaenau Gwent yng Nglyn Ebwy.
Mae tîm y comisiynydd hefyd wedi cefnogi digwyddiadau cymunedol ym Margoed, Brynmawr, Caerffili, Pont-y-pŵl a Threthomas.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jane Mudd: "Rwyf wedi cael wythnos wych yn teithio o amgylch Gwent, yn cwrdd â thrigolion, ac yn gwrando ar eu meddyliau a’u pryderon.
"Mae Gwent yn ardal amrywiol iawn, ac mae’n hanfodol fy mod i’n clywed lleisiau o bob cymuned ar draws ei phum sir. Rwy’n awyddus i fod yn bresennol ac yn weladwy ac mae fy nhîm allan yn rheolaidd yn siarad â thrigolion ar fy rhan. Mae’r sgwrs barhaus hon yn hanfodol er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed.
"Os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes, cymerwch ychydig funudau i lenwi fy arolwg, rhoi eich barn, a fy helpu i ddatblygu fy mlaenoriaethau ar gyfer plismona yng Ngwent ac i wneud gwahaniaeth i’n cymunedau.
Dweud eich dweud
Mae’r arolwg ar gael mewn fformatau eraill ar gais gan swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu drwy anfon e-bost at commissioner@gwent.police.uk neu drwy ffonio 01633 642200.